Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod dros hanner o oedolion Cymru (51%) yn dweud nad ydyn nhw’n ystyried eu bod yn arddel unrhyw grefydd.
Roedd y ffigwr gan ymchwil YouGov yn cynnwys 73% o bobol rhwng 18 a 24 oed a 69% o bobol rhwng 25 a 34 oed.
Nododd 26% yn unig eu bod yn Anglicaniaid ac yn Esgobwyr, 5% eu bod yn Babyddion, 3% eu bod yn Fedyddwyr, 3% eu bod yn Fethodistiaid, a 6% eu bod yn perthyn i grefydd arall.
Yn ogystal, dywedodd bron i filiwn o oedolion Cymru bod ganddyn nhw agwedd ddyneiddiol at fywyd, gyda 66% yn dweud mai gwyddoniaeth a thystiolaeth sy’n cynnig y ffordd orau o ddeall y bydysawd.
Cwricwlwm
Fe fydd sefydliad Dyneiddwyr Cymru, sy’n gweithio ar ran pobol ddigrefydd, yn cynnal lansiad yng Nghaerdydd yn ddiweddarach heddiw gan gyflwyno blaenoriaethau fel rhoi statws cyfartal i Ddyneiddiaeth yng nghwricwlwm yr ysgol .
“Mae gan bron i filiwn o bobl yng Nghymru ymagwedd ddyneiddiol at fywyd felly dyma’r amser cywir i gynnig dewis amgen yn lle crefydd,” meddai Andrew Copson, Prif Weithredwr Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain.
Ychwanegodd Llywydd Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain, Shappi Khorsandi: “Mae’r arolwg yn dangos mai Cymru yw’r rhan leiaf crefyddol yng ngwledydd Prydain, a’i bod yn arwain y ffordd mewn llawer o faterion moesegol. Bydd Dyneiddwyr Cymru yn helpu i ysgogi’r mudiad hwnnw.”