Mae ymgyrchydd iaith amlwg yn pwyso ar Gyngor Gwynedd i ofyn am adolygiad barnwrol o benderfyniad Awdurdod S4C i symud y pencadlys i Gaerfyrddin.
Mae Simon Brooks yn aelod Plaid Cymru ar Gyngor Tref Porthmadog sydd wedi bod yn brwydro ers sawl blwyddyn i gadw Swyddfa Dreth y dref ar agor.
Yno mae’r Ganolfan Alw Gymraeg yn cyflogi 20 o swyddogion treth, ond y bwriad yw cau’r swyddfa a symud y swyddi i Gaerdydd.
Adolygiad
Wrth annog Cyngor Gwynedd i fynd am adolygiad barnwrol ynghylch adleoli S4C, fe ddywedodd Simon Brooks: “Dw i’n meddwl fod yn rhaid i ni dynnu llinell goch yn rhywle ynghylch beth sy’n digwydd yn y gogledd yma.
“Rydan ni mewn sefyllfa lle mae pobol yn mynd efo’r swyddi, allan o’n cymunedau ni.
“Dw i’n gynghorydd tref Plaid Cymru ym Mhorthmadog, a rydan ni ar fin colli’r Swyddfa Dreth i Gaerdydd, sy’n hollol gywilyddus…
“Mae pobol ifanc i gyd yn heidio i Gaerdydd a does ganddo ni ddim un corff cyhoeddus cenedlaethol efo Pencadlys yn y gogledd orllewin a tydan ni ddim yn cael ein trin yn iawn.
“Ac mae’r amser wedi cyrraedd lle’r ydan ni’n gorfod dechrau cwffio’r pethau yma yn galed ac yn agored.
“A gan fod yna amheuon wedi cael eu taflu gan ein cynrychiolwyr etholedig ynglŷn â’r broses yma o beidio â lleoli S4C yng Nghaernarfon, a gan mai Cyngor Gwynedd oedd yn arwain y cais, a gan fod hyn mor eithriadol o bwysig i economi Gwynedd, dw i’n meddwl ei bod hi’n gwbl briodol bod Cyngor Gwynedd yn ceisio cyngor cyfreithiol gyda golwg ar gael adolygiad barnwrol, fel bod y gystadleuaeth yma yn cael ei hailagor.
“Dim bwriad”
Does gan Gyngor Gwynedd ddim bwriad i herio penderfyniad gwreiddiol Awdurdod S4C i symud y pencadlys i Gaerfyrddin.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod eu cais yn 2014 wedi ei ystyried “ yn fanwl gan Awdurdod S4C yn amlinellu’r buddion o adleoli i Gaernarfon, ond yn anffodus, nid oedd cais Gwynedd yn llwyddiannus.
“Mater i Lywodraeth Cymru fyddai penderfynu ar unrhyw gais am arian cyhoeddus i gynorthwyo gyda gwiredducynllun arall ar gyfer adleoli’r pencadlys.”
Mwy am y stori yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg