Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae hyfforddwr gyrru wedi cael ei charcharu am achosi marwolaeth dynes trwy yrru’n beryglus ger Y Trallwng.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Anita Corless, 58, ar ei ffordd i ddysgu cwrs ymwybyddiaeth cyflymder, pan ddewisodd  dynnu allan o res o draffig i oddiweddu, heb fod digon o le i wneud hynny.

Roedd hi’n teithio ar yr A483 rhwng Y Trallwng a Chei’r Trallwng ar 25 Mawrth pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd.

Cafodd Rita Wharton, 83 oed, ei lladd yn y fan a’r lle, ar ôl i’w char gael ei daro gan ddau gerbyd arall.

Cafodd Anita Corless, a oedd yn byw yn Bentham yng ngogledd Swydd Efrog ar y pryd,  hefyd ei hanafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Darren Halstead ar ran yr amddiffyniad bod Anita Corless yn edifar y penderfyniad wnaeth hi’r diwrnod hwnnw a’r loes mae hynny wedi’i achosi i deulu Rita Wharton.

Yn ôl gorchymyn y barnwr Nic Parry, fe fydd Anita Corless yn treulio 16 mis yn y carchar, yn cael ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac wyth mis, ac fe fydd yn rhaid iddi sefyll prawf gyrru estynedig.