Delwedd artist o Ganolfan Antur yn y Cymoedd (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae’r gwaith yn dechrau heddiw ar brosiect £4 miliwn i drawsnewid Canolfan Ddringo Trelewis yn y Cymoedd yn Ganolfan Antur newydd a allai greu hyd at 55 o swyddi a denu ymwelwyr.
Mae’r prosiect wedi derbyn Cyllid Ewropeaidd gwerth £2.3miliwn drwy brosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru sy’n cael ei arwain gan Croeso Cymru.
Fe fydd y ganolfan yn cynnwys canolfan breswyl ac addysg awyr agored sy’n cynnwys 100 gwely, cyfleusterau beicio mynydd yng Nghoedwig Gethin, campfa ac ardal chwarae awyr agored.
‘Denu twristiaeth’
Fe fydd y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn cyfarfod eto heddiw ar gyfer digwyddiad i nodi’r gwaith o ddechrau’r cynllun ailddatblygu.
“Bydd y cyllid yn trawsnewid y Ganolfan yn gyfleuster antur breswyl o’r radd flaenaf gan greu canolfan twristiaeth antur newydd yn ne-ddwyrain Cymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
“Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru ac yn dod â gwerth £5 biliwn y flwyddyn i’n heconomi,” meddai Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies.
“Mae treftadaeth ddiwydiannol y cymoedd wedi darparu adnodd cyfoethog i ymwelwyr o bob rhan o’r byd a bydd Canolfan Rock UK yn gyfle anhygoel i bobol fwy anturus,” ychwanegodd.
“Un o nodau Tasglu Cymoedd y De yw sbarduno gweithgarwch economaidd a chreu swyddi yng nghymunedau’r cymoedd. Gall denu mewnfuddsoddiad gwych fel hwn ein helpu i gyrraedd ein nod.”