Mae’r daith ar drên rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli wedi cyrraedd rhestr 10 uchaf o’r teithiau trên gorau’r byd.
Mae teithiau eraill rhestr y Guardian yn cynnwys Jungfraubahn, yn y Swistir, sy’n cyrraedd mynydd uchaf Ewrop a’r rheilffordd sy’n croesi’r Rockies yng Nghanada rhwng Jasper a Vancouver.
Mae trip ar y lein yn para dwy awr a hanner o hyd, ac yn mynd o’r arhosfan unig ger Machynlleth ar hyd yr arfordir, gan groesi hen bont Abermaw ar hyd afon Mawddach.
Mae’r trên wedyn yn mynd heibio pentref Portmeirion, cyn dangos golygfeydd o gestyll Harlech a Chricieth, cyn iddo ddod at ddiwedd ei daith.
Gweddill o’r goreuon
Mae’r rheilffyrdd eraill sy’n cyrraedd y brig yn cynnwys y Dessert Express, Namibia, y daith rhwng Chicago a San Francisco yn yr Unol Daleithiau a’r daith rhwng Cape Town a Johannesburg yn Ne Affrica.
Mae yna reilffyrdd ar y rhestr hefyd yn Ecwador, Gwlad Thai a Montenegro.