Russell Sherwood Llun: Heddlu'r De
Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i gerbyd wrth chwilio afon Ogwr pnawn ma, a bod lle i gredu ei fod yn eiddo i  gŵr sydd wedi bod ar goll ers dydd Sul mewn tywydd garw.

Y bore yma, fe wnaeth yr heddlu ailddechrau chwilio am Russell Sherwood, 69 oed, yn afon Ogwr.

Bu swyddogion o Wasanaeth Awyr yr heddlu, Gwylwyr y Glannau a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynorthwyo gyda’r chwilio.

Fe adawodd Russell Sherwood ei gartref yng Nghil-ffriw ger Castell-nedd ddydd Sul mewn car Ford Focus arian.

Mae’r gwasanaethau brys wedi gorfod dod â’r chwilio i ben dros nos heno wrth i amodau’r tywydd barhau’n anodd, ond bydd presenoldeb yr heddlu’n parhau ar y safle dros nos a’r chwilio’n ailddechrau ben bore.

‘Parhau’n beryglus’

Yn ôl Uwch-arolygydd Heddlu’r De, Simon Davies, “mae’r afon wedi chwyddo ac yn llifo’n gyflym, ac mae swyddogion arbenigol gydag offer arbenigol yn cynnal y chwiliad.

“Mae amodau’r chwilio yn yr ardal yn parhau’n beryglus, a thra ein bod yn deall fod pobol am helpu i ddod o hyd i Russell Sherwood, rydym yn annog y cyhoedd i gadw’n glir o’r ardal,” meddai.

“Rydym yn meddwl am deulu Russell Sherwood yn y cyfnod anodd hwn, ac maen nhw’n cael eu cefnogi a’u diweddaru gan swyddogion arbenigol.”