Mae dyn o Gaerffili wedi cael ei ddedfrydu i ddeunaw mis yn y carchar ar ôl gyrru’n wyllt drwy’r dref pan oedd yr heddlu ar ei ôl.
Cafodd John Paul Jones, 27, ei stopio yn ystod oriau mân 15 Mehefin yn ardal Brynhyfryd, Caerffili, gan yr heddlu oedd ar batrôl yn yr ardal.
Fe wnaeth y gyrrwr stopio’r car i ddechrau ond pan aeth swyddogion ato fe ddechreuodd yrru eto, gan arwain at gwrs ar gyflymder o hyd at 78 milltir yr awr ac a barodd tua saith munud.
Daeth y ras i ben pan aeth y car i lawr llwybr droed dan bont rheilffordd tuag at Barc Churchill, gan fynd yn sownd yn y twnnel a rhwystro’r llwybr troed.
Ar ôl ei arestio, fe ddarganfyddodd yr heddlu fod cocên yng nghorff y gyrrwr. Cafodd ei gyhuddo o yrru’n beryglus, methu â stopio i’r heddlu, gyrru gwaharddedig, methu â rhoi sampl gwaed i’w ddadansoddi a gyrru heb yswiriant.
Cafodd ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar a’i wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a naw mis.
“Twpdra llwyr”
Dywedodd swyddog yr achos, yr Heddwas Matt Richley, fod John Paul Jones wedi gyrru mewn ffordd oedd yn rhoi’r cyhoedd, ef ei hun, ei deithwyr a’r heddlu mewn perygl.
“Daeth ras i ben ar foment o fyrbwylltra a thwpdra llwyr pan benderfynodd yrru i lawr llwybr droed a chael ei hun yn sownd mewn twnnel rheilffordd,” ychwanegodd.