Mae cyrch awyr gan luoedd Rwsia ar Syria wedi lladd beth bynnag 30 o aelodau grwp terfysgol sydd â chysylltiad ag al-Qaida, yn ol adroddiadau.

Y gred ydi fod rhai o arweinwyr y mudiad Fatah al-Sham hefyd wedi’u lladd yn nhalaith ogleddol Idlib ddydd Mawrth, ac mae Rwsia yn honni fod Muhammad Helala, Abu Jaber Harmuja ac Abul Baha Al-Asfari yn eu plith.

Roedd yr ymosodiad yn rhan o ymgyrch newydd gan Rwsia yn erbyn rhai o ardaloedd o Syria sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr. Mae Rwsia yn gefnogol iawn i arlywydd y wlad, Bashar Assad.