Mae ffigurau’n dangos bod cynghorau sir Cymru wedi gwario dros £56 miliwn dros y blynyddoedd diwetha’ ar ymgynghorwyr allanol.

Mae’r Cais Rhyddid Gwybodaeth gan yr Aelod Cynulliad dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, yn dangos mai Ynys Môn a wariodd fwya’ ar ffioedd ymgynghori, sef £9.8m rhwng 2011 a 2016.

Ar ben arall y sbectrwm oedd Cyngor Bro Morgannwg, a wariodd ddim ond £875 yn ystod yr un cyfnod.

Bu cynnydd mawr yng ngwariant rhai cynghorau ar ymgynghorwyr, gan gynnwys Ceredigion, a wariodd £2m yn 2015/16, o gymharu â £800,000 yn 2014/15 – cynnydd o 149%.

Mae’r ffigurau’n dangos bod cynnydd o thua 30% wedi bod ar wariant awdurdodau lleol Cymru ar ymgynghorwyr ers 2011/12.

Roedd naw cyngor sir naill ai heb ateb y Cais Rhyddid Gwybodaeth neu wedi gwrthod rhoi ffigurau.

“Annerbyniol”

Dywedodd Janet Finch-Saunders, sy’n llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Leol, bod y ffigurau’n “annerbyniol”.

“O ystyried yr amrywiaeth eang o weision sifil a swyddogion sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, mae’n siomedig iawn nad oes mwy wedi cael ei wneud i atal y gwariant,” meddai.

“Tra bod angen cyngor allanol arbenigol weithiau, mae graddfa’r gwariant hwn yn anhygoel. Mae’n annerbyniol. Mae angen i wariant Llywodraethol o bob math gael ei fonitro a’i scrwtineiddio’n iawn.

“Mae angen i ni weld mwy o dryloywder, ar ben cymhelliant ar y cyd i leihau faint o arian trethdalwyr sy’n cael ei wario ar ymgynghorwyr.”

Faint wariodd eich cyngor chi?

Blaenau Gwent – £622,725

Pen-y-bont ar Ogwr – dim ffigwr

Caerffili – £7,109,117

Caerdydd – £8,854,174

Sir Gaerfyrddin – £5,596,150

Ceredigion – £6,180,946

Conwy – dim ffigwr

Sir Ddinbych – £1,594,498

Sir Fflint – dim ffigwr

Gwynedd – dim ffigwr

Ynys Môn – £9,836,143

Sir Fynwy – dim ffigwr

Castell-nedd Port Talbot – £3,776,123

Casnewydd – £3,377,279

Sir Benfro – dim ffigwr

Powys – dim ffigwr

Rhondda Cynon Taf – dim ffigwr

Abertawe – £2,229,513

Torfaen – dim ffigwr

Bro Morgannwg – £875

Wrecsam – £4,136,712

Cyfanswm – £56,303,198