Fe fydd Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn cael ei gorchuddio mewn lliwiau gwahanol ar gyfer ymgyrch ‘Shine a Light on Cancer’ gan raglen BBC Breakfast heno.

Bydd y goleuadau lliw yn cael eu hadlewyrchu ar yr adeilad yn y Bae er mwyn codi ymwybyddiaeth o ganser ac i annog pobol i drafod yr aflwydd yn agored.

Mae disgwyl i Neuadd y Ddinas Belffast, Twr Blackpool, y London Eye a Chastell Caeredin gael eu goleuo hefyd.