Mae bron i 100 o gŵn bach oedd yn debygol o gael eu gwerthu’n anghyfreithlon wedi cael eu hachub o borthladd Caergybi, Ynys Môn.
Fe wnaeth swyddogion y Llu Ffiniau ddarganfod dau lwyth gwahanol o gŵn beagle, basset hound, labradoodle a pomeranian yn cael eu cludo ar ddwy fferi o Ddulyn fore Mawrth.
Roedd yr anifeiliaid rhwng chwech a saith wythnos oed ac yn cael eu cadw mewn “amgylchiadau cwbwl anweddus”, meddai’r RSPCA. Nid oedd cylchrediad aer ar y cychod a doedd y cŵn heb gael eu darparu â bwyd na diod.
Mae’r cŵn bellach wedi cael eu dychwelyd i Iwerddon lle y byddan nhw’n cael gofal cyn cael eu hail-gartrefu.
Dywedodd llefarydd o’r RSPCA: “I werthwyr diegwyddor, dyw’r cŵn bach yma yn ddim byd ond ffordd o wneud arian.”