Mae cwmni dŵr Severn Trent wedi gwneud cynnig i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, sy’n darparu dŵr i ardaloedd yng ngogledd Cymru, am £78.5 miliwn.

Roedd Severn Trent mewn cystadleuaeth â chwmni Ancala Fornia, oedd hefyd wedi gwneud cynnig i brynu’r cwmni am £71.3 miliwn.

Ond cyhoeddodd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy nad yw bellach yn ystyried cais Ancala Fornia.

Hanes

Cafodd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ei sefydlu yn 1997 yn dilyn uno Cwmni Dŵr Gaer a Chwmni Dŵr Wrecsam.

Mae’n darparu dŵr i tua 260,000 o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru a Swydd Caer, ac fe wnaeth elw o £6.6 miliwn ar refeniw o £23.1 miliwn yn y flwyddyn cyn diwedd mis Mawrth 2016.

Mae Severn Trent yn un o gwmnïau dŵr mwya’ gwledydd Prydain ac yn cyflenwi dŵr i 4.3 miliwn o dai yng nghanolbarth Lloegr a gogledd Cymru.