Y ddiweddar Bessie Burns (Llun: Cyngor Môn)
Mae teyrngedau’n cael eu rhoi i Bessie Burns, cyn-Gadeirydd Cyngor Môn a sylfaenydd siop lyfrau Cymraeg Llangefni. Bu farw ddydd Mercher diwetha’, Tachwedd 9, yn 89 oed.

Hi oedd yn gyfrifol am siop Cwpwrdd Cornel rhwng 1972 a 1989 cyn trosglwyddo’r awenau i Dylan Morgan wrth iddi ymddeol.

Yn gyn-athrawes yn Ysgol Uwchradd Caergybi, roedd Bessie Burns yn adnabyddus fel cynghorydd sir Plaid Cymru dros Lanfaethlu.

Fe gafodd ei magu ym mhentre’ Clynnog Fawr rhwng Caernarfon a Phwllheli, a chyn cael ei hethol ar Gyngor Môn, fe fu’n gynghorydd yn Ngwynedd rhwng 1989 a 1996.

Ond er iddi symud i Fôn yn 1949 a phriodi ei gwr, Dennis, fe dreuliodd y ddau ohonyn nhw gyfnodau wedyn yn Llundain ac yng Nghyprus lle’r oedd o’n filwr, cyn dychwelyd i Gymru.

Y cynta’

“Pan ymddeolodd Bessie yn niwedd 1989 a gorffen yn y siop, gymerodd hi dri mis i fi ffeindio lle arall yn y dre’,” meddai Dylan Morgan, perchennog presennol Cwpwrdd Cornel. “O’dd hi wedi gwerthu’r adeilad lle’r o’dd hi, ond o’dd hi heb werthu’r stoc, a dyna shwd ges i’r cyfle.

“Mi gymerais i’r stoc a chael lle arall yn Llangefni. O’n i jyst yn lwcus iawn i fod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Buodd hi’n garedig i fi wrth drosglwyddo’r busnes, yn gefnogol iawn, ac o’dd hi’n falch i weld bod y gwasanaeth yn para yn Llangefni.

“O’dd hi wedi gweithio i feithrin a sefydlu’r busnes fel canolfan bwysig i’r Gymraeg ym Môn a rhoddodd hi bob cefnogaeth i fi wrth i fi gymryd y busnes ymlaen.”

Angladd

Fe fydd cynhebrwng Bessie Burns yn cael ei gynnal yng nghapel gorffwys Preswylfa yn Y Fali ddydd Gwener yr wythnos hon (Tachwedd 18), a’i chorff yn cael ei roi i orffwys ym mynwent Ynys Wen.