Michelle Obama
Mae maer yn West Virginia wedi ymddiswyddo ar ôl ymateb i neges hiliol am Michelle Obama ar wefan gymdeithasol Facebook.

Mae cyngor tref Clay wedi derbyn ymddiswyddiad Beverly Whaling, oedd â thair blynedd yn weddill o’i chyfnod wrth y llyw.

Mae’r ddynes a wnaeth y sylw gwreiddiol, Pamela Ramsey Taylor wedi cael ei diarddel o’i swydd am y tro.

Roedd hi wedi gadael neges ar y wefan ar ôl i Donald Trump gael ei ethol yn Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau yn dweud ei bod hi wedi “diflasu ar weld epa mewn sodlau”. Ymateb Beverly Whaling trwy ddweud bod y sylw wedi “gwneud ei diwrnod”.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod y sylw gan Beverly Whaling yn “anweddus” a bod hiliaeth yn annerbyniol, ac fe gynigiodd ymddiheuriad.

Cafodd nifer o gwynion eu derbyn ynghylch y sylwadau, gan gynnwys galwadau ar i’r ddwy ymddiswyddo.