Dippy'r Diplodocws, Llun: Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain
Fe fydd sgerbwd dinosor anferth, sy’n un o atyniadau mwyaf Amgueddfa Astudiaethau Natur Llundain, yn gwneud ei ffordd i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ar gyfer arddangosfa dros dro.
Mae adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yn un o wyth lleoliad gafodd eu dewis i roi cartref i sgerbwd ffug Dippy’r Diplodocws rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020.
Penderfynwyd na fyddai’r dinosor 70 troedfedd yn parhau i gael ei arddangos ger prif fynedfa’r amgueddfa yn Llundain o 2017 ymlaen, ac mai sgerbwd morfil glas go iawn yn dod yn ei le.
Dywedodd cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston, Philippa Charles, sy’n cyllido rhan o’r daith:
“Mae cenedlaethau o blant wedi cael eu syfrdanu gan y presenoldeb hwn yng nghalon yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol ac rydym yn gobeithio y bydd hynny yn parhau wrth iddo wneud ei ffordd o amgylch gwledydd Prydain”.
Bydd Dippy yn ymweld â Chymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a phum rhanbarth ledled Lloegr.