Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio ei chynllun cyflawni ar gyfer canser sy’n cynnwys ymrwymiadau newydd i fynd i’r afael â’r clefyd.

Bellach mae’r cynllun yn ymrwymo i barhau i gynyddu nifer y cleifion sy’n goroesi, lleihau nifer y marwolaethau cynnar a chau’r bwlch rhwng gofal canser Cymru a gweddill Ewrop.

Mae’r cynllun wedi’i ddiwygio gan Grŵp Gweithredu ar Ganser Llywodraeth Cymru, ynghyd â rhanddeiliaid perthnasol o’r trydydd sector.

‘Triniaeth o’r radd flaenaf’

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar wella canlyniadau cleifion canser yr ysgyfaint, ceisio canfod canser ynghynt a sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn darparu gofal o’r safon uchaf yng Nghymru.

“Dw i’n awyddus i weld bod triniaeth o’r radd flaenaf ar gael i unrhyw un sy’n dioddef o unrhyw fath o ganser, a hynny drwy gydol ei brofiad o drin y clefyd,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd wrth lansio’r cynllun diwygiedig.

Cafodd y cynllun, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, ei gyhoeddi gyntaf yn 2012, ac mae’r ymrwymiadau heddiw yn ychwanegiad ato.

“Dyma ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – ein hymrwymiad ysgrifenedig i sicrhau ein bod ymhlith y gorau yn Ewrop o ran ein gofal canser. Nid yw pobol Cymru yn haeddu llai,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd.

Cyfraddau

O ran cyfraddau goroesi canser yng Nghymru, dywedodd Vaughan Gething eu bod yn codi o flwyddyn i flwyddyn gyda’r nifer o farwolaethau cynnar wedi gostwng tua 14% dros gyfnod o ddeng mlynedd.

“Mae’r gwariant ar wasanaethau canser wedi codi o £347 miliwn yn 2011-12 i £409 miliwn yn 2014-15,” meddai.

“Rydyn ni wedi rhoi bron £10 miliwn i gael cyflymyddion llinellol (linear accelerators) newydd; rydyn ni’n cefnogi’n llawn y gwaith o ddatblygu Canolfan Canser newydd gwerth £200 miliwn yn Felindre; ac mae £15 miliwn wedi ei neilltuo yn y gyllideb ddrafft ar gyfer adnoddau diagnosis gwell,” meddai wedyn.