Mae dynes o Gasnewydd wedi dweud ei bod yn poeni’n fawr am fwydo ei phump o blant yr wythnos hon, wedi i Tesco rewi ei chyfrif banc.

Ar hyn o bryd mae Banc Tesco yn cynnal ymchwiliad ar ôl i arian gael ei gymryd o gyfrifon 20,000 o gwsmeriaid mewn ymosodiad gan hacwyr dros y penwythnos.

Dywedodd Sam Allen, 44 oed, ei bod hi wedi cael neges destun ddydd Sadwrn yn rhybuddio fod twyll ar ei chyfrif.

Esboniodd iddi dreulio chwe awr yn cysylltu â llinell gymorth Tesco cyn mynd i siopa ddydd Sul pan gafodd ei cherdyn ei wrthod yn yr archfarchnad.

‘Wedi fy ngadael i lawr’

Mae gan Sam Allen bump o blant rhwng saith a 13 oed, ac mae’n poeni’n fawr am sut mae’n mynd i’w bwydo’r wythnos hon, meddai.

Cadarnhaodd nad oedd yr hacwyr wedi dwyn arian o’i chyfrif hi, ond byddai’n rhaid iddi aros hyd at ddeg diwrnod cyn cael cerdyn newydd.

“Mae Tesco yn cadw ymddiheuro am yr anghyfleustra ond dydyn nhw ddim yn ymddangos i wneud unrhyw beth arall,” meddai.

“Dw i’n teimlo fel eu bod wedi fy ngadael i lawr yn llwyr. Does gen i ddim mynediad at fy arian. Dydw i ddim yn gallu talu biliau na phrynu bwyd.”

“Ar ôl heddiw does gen i ddim modd i fwydo fy mhlant yn yr ysgol am fod eu system yn talu arian i mewn i gyfrif drwy gerdyn debyd, a dydw i ddim yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd,” meddai wedyn.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Banc Tesco fod unrhyw drafodion ar-lein gan gwsmeriaid â chyfrifon cyfredol yn cael eu rhewi ddydd Llun, fel mesur diogelwch brys.