Mae Banc Tesco yn cynnal ymchwiliad ar ôl i arian gael ei gymryd o gyfrifon 20,000 o gwsmeriaid mewn ymosodiad gan hacwyr.
Dywedodd prif weithredwr y banc Benny Higgins y byddai unrhyw drafodion ar-lein gan gwsmeriaid gyda chyfrifon cyfredol yn cael eu rhewi ddydd Llun, fel mesur diogelwch brys.
Roedd rhai cyfrifon wedi cael eu hacio dros y penwythnos ac mewn “rhai achosion” roedd arian wedi cael ei gymryd drwy dwyll, meddai.