Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gamarwain y cyhoedd yn fwriadol dros gyfraddau busnes
Mae cyfraddau busnes ar draws Cymru a Lloegr wedi cael eu hailgyfrif a dywed y Ceidwadwyr bod llawer o gwmnïau bach yng Nghymru yn wynebu codiad dramatig yn hytrach na’r toriad treth a addawyd iddynt gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros yr economi, bod methiant Llywodraeth Cymru i weithredu yn golygu bod llawer o gwmnïau bellach yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu biliau heb unrhyw gymorth.
Mae’n tynnu sylw at rhai cwmnïau yn y Bontfaen sy’n wynebu cynnydd o gymaint a 136%, a Trefynwy ble mae rhai perchnogion cwmnïau yn wynebu codiadau o 130%.
Meddai Russell George bod Llywodraeth Cymru wedi camarwain busnesau bach yn “fwriadol” addo toriadau trethi iddyn nhw cyn etholiad y Cynulliad ond nad ydyn nhw wedi gwireddu’r addewid.
Meddai: “Mae’r pŵer i osod cyfraddau busnes yn un o’r arfau mwyaf arwyddocaol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau bach.
“Byddai toriad treth ar gyfer cwmnïau hyn yn lliniaru’n erbyn effaith ailbrisio, ac yn help sydd ei angen fawr i economi Cymru.
“Yn lle hynny, mae’r Blaid Lafur yn sinigaidd ac yn ceisio camarwain y gymuned fusnes yn fwriadol.
“Nid yw hyn yn doriad treth ac mae addewid maniffesto Llafur wedi cael ei dorri o fewn misoedd i’r etholiad.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n darparu £200m o gymorth tuag at gyfraddau busnes y flwyddyn nesaf ac mae ymgynghoriad ar y mater ar y gweill ar hyn o bryd.