Ffoaduriaid yn gadael Y Jyngl yn Calais.
Yn ôl gwirfoddolwr o Gymru sydd allan yn Ffrainc, mae clirio’r gwersyll ffoaduriaid yn Calais wedi gwneud 3,000 o bobol yn ddigartref ar strydoedd Paris.

Mae Nick Jewitt, sy’n dod o Fangor, wedi bod yn helpu elusen Care 4 Calais yng ngwersyll ‘y Jyngl’ ers dydd Iau diwetha’ ac mae bellach ar ei ffordd i Baris i helpu pobol yno.

Mae’n dweud bod nifer y ffoaduriaid sydd bellach yn ddigartref o achos dymchwel gwersyll Calais wedi dyblu i 3,000.

Nid yw’n ymwybodol o unrhyw gymorth sy’n cael ei roi gan awdurdodau Ffrainc ond dywed bod y ffoaduriaid “yn cael eu symud yn gyson gan yr heddlu”.

“Penderfynol” o gyrraedd Prydain

Mae’r broblem wedi codi, meddai, gan fod cymaint o ffoaduriaid ddim am aros yn Ffrainc – maen nhw’n gyndyn o fynd i’r canolfannau ar eu cyfer, rhag ofn y bydd yn rhaid iddyn nhw geisio am loches yno.

“Nid yw yn glir beth sy’n digwydd yn y canolfannau, mae’r oedolion yn mynd i gael cyfle i geisio lloches yn Ffrainc, ond does dim diddordeb â llawer ohonyn nhw yn hynny, mae lot yn benderfynol o gyrraedd y Deyrnas Unedig,” meddai Nick Jewitt wrth golwg360.

“Felly, fe wnaeth llawer o bobol adael y gwersyll yn Calais cyn iddo gael ei glirio a mynd i Baris yn y gobaith y byddan nhw’n mynd yn ôl i Ogledd Ffrainc ar ddyddiad arall a thrio ymuno â gwersyll llai.

“Doedd amodau byw yn y Jyngl byth yn dda ond mae’n waeth ar strydoedd Paris,” ychwanegodd.

Ymateb rhy hwyr

Yn ôl Nick Jewitt, trysorydd elusen Pobl i Bobl yng Nghymru, mae llawer o blant y ‘Jyngl’ wedi eu rhoi mewn pentref ger Calais, a bod hynny wedi cael ei drefnu gan elusen Achub y Plant.

Mae cynlluniau ar droed i anfon plant sydd â pherthnasau ym Mhrydain i’r wlad, ond yn ôl Nick Jewitt, mae ymateb Llywodraeth Prydain i’r argyfwng wedi bod yn “aneglur” ac araf.