Mae gwleidydd a gollodd ei sedd yn etholiadau’r Cynulliad eleni wedi cael swydd newydd yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd Leighton Andrews, cyn-AC dros y Rhondda, yn cadeirio tasglu newydd ar sut i wneud gwaith y Cynulliad yn fwy deniadol a hygyrch i bobol Cymru.
Bydd y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol yn argymell ffyrdd i Lywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, gyflwyno newyddion a gwybodaeth am waith y corff.
Mae disgwyl i Leighton Andrews fynd â’r gwaith yn fwy digidol, gan fod dibynnu ar y cyfryngau traddodiadol yn peri “her”, meddai.
Mynd yn ddigidol
“Mae pobl yn dewis cael eu newyddion drwy ffyrdd llawer mwy amrywiol. Dim ond drwy Facebook y mae rhai pobl yn cael eu newyddion erbyn hyn,” meddai Leighton Andrews.
“Mae nifer gynyddol o bobl yn dewis byw eu bywydau drwy gymunedau digidol ac ar-lein, gan anwybyddu’r cyfryngau a’r sianeli newyddion traddodiadol.
“Mae’r cyfnod pan allai sefydliadau gwleidyddol ddibynnu ar y cyfryngau print a darlledu prif ffrwd i sicrhau bod eu negeseuon yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl yn wynebu her.
“Mae’r cyfryngau prif ffrwd yn parhau i fod yn nodwedd bwysig o’n democratiaeth, ond bydd angen cynyddol i gyrff fel y Cynulliad Cenedlaethol becynnu a gwthio eu cynnwys i’r llwyfannau y mae cynulleidfaoedd yn eu defnyddio.
“Bydd sut mae cyrraedd y cynulleidfaoedd hynny a pha fath o gynnwys y maent am ei weld yn gwestiynau sylfaenol y bydd y tasglu hwn yn ceisio eu hateb yn ystod y misoedd nesaf.”
“Diffyg sylw yn y cyfryngau”
Yn ôl y Llywydd, mae gan Leighton Andrews “brofiad helaeth” mewn gwaith cyfathrebu ar wleidyddiaeth a llywodraethiant.
“Ni allwn anwybyddu’r pwysau y mae’r cyfryngau confensiynol yng Nghymru yn eu hwynebu a’r effaith y mae hynny’n ei chael o ran rhoi gwybod i bobl Cymru am waith y Cynulliad Cenedlaethol,” ychwanegodd.
“Gallwn droi’r diffyg sylw yn y cyfryngau yn gyfle i ddylunio ein dulliau ein hunain o gyfathrebu a rhyngweithio â phobl Cymru, gan ddefnyddio pob math o dechnoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol.”
Mae disgwyl i ganfyddiadau’r tasglu gael eu cyhoeddi erbyn Pasg y flwyddyn nesaf.
Aelodau eraill tasglu’r Llywydd yw:
- Cath Allen – Aelod o Fwrdd BBC Cymru a chyn newyddiadurwr ar y BBC
- James Downes – Pennaeth Cynnyrch yn Nhŷ’r Cwmnïau
- Ifan Morgan Jones, Darlithydd mewn Newyddiaduraeth, Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor
- Valerie Livingston – Cyfarwyddwr y cwmni gwybodaeth wleidyddol, newsdirect wales
- Hannah Mathias – arbenigwr ar dechnoleg ac adnoddau dysgu
- Emma Meese – Canolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Newyddiaduraeth Gymunedol
- Gareth Rees – Datblygwr Meddalwedd yn mySociety
- Iain Tweedale – Pennaeth Ar-lein a Dysgu BBC Cymru
- Andy Williamson – sefydlydd cwmni ymchwil ac ymgynghori Future Digital