John Rees-Evans mewn hystings cynharach yng Nghaerdydd (llun o fideo ar wefan ei ymgyrch)
Fe fu anhrefn eto yn un o gyfarfodydd UKIP wrth i un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid adael hystings yng Nghymru ar ôl cwta chwarter awr o drafod.

Mae’r ymgeisydd o Gymru, John Rees-Evans, na fydd yn cymryd rhan mewn rhagor o gyfarfodydd o’r fath gan ddweud bod y blaid “mewn twll”.

Mae’n honni nad yw’r blaid yn ganolog eisiau “cystadleuaeth” yn yr hystings ac fe ddywedodd ei fod wedi cael rhybudd gan un o swyddogion y blaid am feirniadu ymgeisydd arall.

Mae honiadau tebyg wedi eu gwneud gan ymgeiswyr eraill mewn etholiadau am arweinyddiaeth y blaid.

Dadl Gymreig

Roedd y ddadl neithiwr yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd ac yn gyfle i aelodau Cymreig UKIP glywed gan y pedwar ymgeisydd sydd am arwain y blaid.

Yn ei araith agoriadol, dywedodd John Rees-Evans, sy’n byw ym Mhenrhiwceibr yng Nghwm Cynon fod angen mawr i ddiwygio’r blaid, cyn egluro ei fod am adael y neuadd a’r cyfarfod … a cherdded allan.

Mae’r cyn-filwr o dras Cymreig yn cael ei ystyried yn un o’r ymgeiswyr llai tebygol o ennill yn y ras a gafodd ei thanio gan benderfyniad Diane James i ymddiswyddo o fod yn arweinydd ar ôl dim ond 18 diwrnod yn y swydd.

Yn ogystal â John Rees-Evans, yr ymgeiswyr eraill yw Paul Nuttall, cyn dirprwy arweinydd y blaid, Suzanne Evans, y cadeirydd a Peter Whittle, Aelod Cynulliad yn Llundain.