David Hanson - 'angen esboniad' (Trwydded Llywodraeth Agored f.1.0)
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw am esboniad pam fod cymaint o droseddwyr honedig yn dianc o hosteli mechnïaeth.

Yn ôl David Hanson, AS Delyn a chyn weinidog cyfiawnder gyda’r Llywodraeth Lafur, does dim gwybodaeth am pa mor ddifrifol yw’r honiadau yn erbyn rhai o’r 683 a ddihangodd yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

A does dim ystadegau chwaith, meddai, am y nifer sydd wedi cael eu dal a’u cymryd yn ôl i’r ddalfa.

Gostyngiad

Er fod y ffigwr wedi haneru bron yn ystod y pum mlynedd ddiwetha’, roedd David Hanson yn mynnu bod angen esboniad.

“Mae’r duedd ar i lawr,” meddai, “ond dw i’n dal i gredu bod y ffigurau yma’n arwyddocaol ac yn gofyn am esboniad pam eu bod mor sylweddol.”

Roedd yn mynnu bod gormod o bobol o hyd naill ai’n dianc o ganolfannau mechnïaeth, neu’n torri amodau cyrffiw yno, neu’n cael eu hanfon yn ôl i garchar o ganolfannau o’r fath.

Achos o Gymru

Fe gafodd David Hanson y ffigurau ar ôl gofyn cwestiwn yn y Senedd yn sgil diflaniad troseddwr o’r enw Michael Andrew Jones o hostel fechnïaeth yn etholaeth Delyn.

Mae bellach wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Liz Truss, yn gofyn pa asesiadau risg oedd wedi eu cynnal a pha gamre oedd wedi eu cymryd i warchod y cyhoedd rhag y dyn 47 oed, sydd â record troseddol.