Mae Carwyn Jones wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am herio dyfarniad y llys (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae Prif Weinidog Prydain am barhau gyda’i hamserlen i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ffynonellau sy’n agos ati.
Mae disgwyl i Theresa May wthio i danio erthygl 50 erbyn mis Mawrth, a hynny er bod yr Uchel Lys ddoe wedi dyfarnu bod angen sêl bendith Aelodau Seneddol cyn hynny.
Fe benderfynodd yr Uchel Lys ddoe mai’r Senedd yn unig sydd â’r grym i gymeradwyo arwyddo erthygl 50 yn hysbysu’r Undeb Ewropeaidd fod Prydain yn gadael.
Roedd hyn yn mynd yn groes i’r hyn yr oedd Llywodraeth Prydain ei eisiau ac mae disgwyl i’r Goruchaf Lys glywed apêl y llywodraeth fis nesa’.
‘Camgymeriad’ meddai Carwyn
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod apelio yn erbyn y dyfarniad yn ‘gamgymeriad’.
Yn ôl y BBC, mae disgwyl i Theresa May amlinellu ei chynlluniau mewn galwad ffôn heddiw i Jean-Claude Juncker, llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn cael ei weld yn rhwystr mawr i gynlluniau’r llywodraeth ac fe allai hyd yn oed arwain at gynnal etholiad cyffredinol cynnar os na fydd yn gallu cael cefnogaeth y Senedd.
Hyd yma, mae Theresa May wedi gwadu hynny.