Ddiwrnod wedi’r cyhoeddiad na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i frwydr Orgreave rhwng y glöwyr a’r heddlu yn ne Swydd Efrog yn 1984, mae Adam Price wedi bod yn rhannu ei atgofion â Golwg360

Roedd tad yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rufus Price, yn gweithio ym mhwll glo’r Betws ger Rhydaman adeg y Streic Fawr.

Esboniodd Adam Price fel y byddai ei dad yn ymuno â’r streic mewn nifer o feysydd glo ledled gwledydd Prydain a’i fod wedi teithio i Orgreave y diwrnod hwnnw (18 Mehefin, 1984).

“Mae rhyw frith gof gen i… dwi’n cofio’i weld e ar y teledu… ag yntau wedyn yn dod nôl gyda chleisiau ar hyd ei gorff ac yn y blaen ac wedi cael clatsiant, fel tipyn o bobol oedd wedi mynd lan,” meddai.

Esboniodd ei bod yn ddiwrnod cynnes a bod ei dad wedi gwisgo crys-T a phâr o jîns.

“Fel oedd fy Nhad yn dweud ar y pryd doedden nhw ddim eisiau trwbl, neu fydde’ fe wedi gwisgo yn wahanol.

“Doedd e, fel neb arall, yn disgwyl y profiad gawson nhw… oedd e’n eithaf ysgytwad iddo mae’n siŵr, ac inni i gyd.”

‘Sarhad’

Mae cyhoeddiad Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain ddoe i beidio â chynnal ymchwiliad yn “sarhad ac yn halen ar y briw” yn ôl Adam Price.

“Mae cymunedau glofaol wedi cael eu trin yn ofnadwy gan wleidyddion ar y brig a bydd y cymunedau hynny a’r glowyr yn teimlo’n chwerw iawn am y canlyniad,” meddai.

“Dyw e ddim yn syndod efallai, ond pam codi gobeithion rai misoedd yn ôl os taw fel hyn oedd hi am fod ar ei diwedd hi?”

Cyhuddo o ‘gam-gyflwyno’

Yn ôl Adam Price, fe ddylai ymchwiliad annibynnol gael ei gynnal er mwyn canfod y gwir am yr hyn ddigwyddodd.

“Ry’n ni nawr yn gwybod fod y BBC er enghraifft wedi bod yn euog o gam-gyflwyno’r hyn ddigwyddodd drwy newid cronoleg y lluniau i wneud iddo ymddangos taw’r glowyr oedd wedi dechrau pethau,” meddai.

“Wrth gwrs, ni nawr yn gwybod mai fel arall oedd hi, ac mi oedd y ceffylau a’r heddlu terfysg (riot police) wedi mynd mewn yn gyntaf ac wrth gwrs yn mynd mewn gyda snatch squads yn dewis a dethol, rhai ohonyn nhw o’r Betws gyda llaw, a’u tynnu mas o linellau’r glowyr ac yn hollol fympwyol, doedd y bechgyn ’ma ddim wedi gwneud dim…”

‘Dulliau dan din’

Dywedodd Adam Price mai’r bwriad oedd “dysgu gwers” a “thalu pwyth” i’r glowyr.

“Ar y pryd roedd y streic yn llwyddo ac mi oedd yna ofid gwirioneddol bod y llywodraeth yn mynd i golli’r streic.”

Ychwanegodd bod yr ymadroddion a ddefnyddiwyd ar y pryd fel, “picket line violence”, wedi newid canfyddiad y cyhoedd tuag at y glowyr.

Roedd yn ffordd o “wanychu’r gefnogaeth ymhlith y cyhoedd, lle’r oedd y gefnogaeth yn eithaf cryf ar y dechrau, trwy ddulliau eithaf dan din.”

Ysbryd y glöwyr

“Y diwrnod wedyn, mi oedd Neil Kinnock hyd yn oed fel arweinydd yr wrthblaid y Blaid Lafur yn codi ar ei draed yn y Senedd yng nghwestiynau’r Prif Weinidog ac yn condemnio’r trais oedd e wedi’i weld yn Orgreave – felly doedd dim llawer o gefnogaeth wedi dod o’r cyfeiriad yna chwaith,” meddai Adam Price.

Ac o ran ysbryd y glowyr, roedd yr Aelod Cynulliad o’r farn fod brwydr Orgreave wedi dylanwadu ar nifer o feysydd glo Lloegr gyda nifer yn dychwelyd i’w gwaith wedi hynny.

Ond, “weden i ddim bod e wedi torri ysbryd y glowyr yn ne Cymru, yn sicr fanna oedd e wedi atgyfnerthu’r teimlad o gydlyniad ymhlith y gymuned.”

Gwrandewch ar atgofion Adam Price yn y clip sain hwn: