Cafodd saith o bobol eu harestio wedi eu hamau o droseddau gwrthgymdeithasol yng Nghasnewydd ar noson Calan Gaeaf.
Dywedodd Heddlu Gwent fod ganddyn nhw dimau ychwanegol ar y stryd neithiwr er mwyn sicrhau ymateb cyflym i alwadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn ogystal ag arestio saith, fe wnaeth yr heddlu hefyd wasgaru grwpiau o bobol ifanc a dod o hyd i dân gwyllt masnachol sydd ddim i fod ar werth i’r cyhoedd.
Roedd y rhai a gafodd eu harestio i gyd yn ddynion ifanc rhwng 14 a 23 mlwydd oed ac roedden nhw wedi cael eu dal ar amheuaeth o amrywiaeth o droseddau o godi twrw i droseddau gwrthgymdeithasol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Julian Williams: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos nad ydym yn godde’r ymddygiad annerbyniol hwn.
“Er mai lleiafrif bach o unigolion sydd wrthi, mae’r saith arestiadau yn anfon rhybudd clir i unrhyw un sy’n benderfynol o achosi helynt y byddwch yn dioddef y canlyniadau.”
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol i roi gwybod iddyn nhw drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.