Fe gafodd pedwar o bobol eu cludo i’r ysbyty ar ôl damwain ar Allt Rhuallt yn Sir Ddinbych.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ddamwain ar briffordd yr A55 am tua 5.20yp ddydd Gwener, Hydref 28, lle’r oedd nifer o gerbydau wedi bod mewn gwrthdrawiad.

O ganlyniad, fe fu’r ffordd ar gau am dros ddwyawr tra’r oedd y gwasanaethau brys ar waith, a thra bod yr heddlu’n ymchwilio i amgylchiadau ac achos y ddamwain.