Michael Eavis (chwith), sylfaenydd Gwyl Glastonbury, ymhlith yr aelodau undeb ar ymweliad â fferm Daioni
Mae’r teulu Harris o Boncath, Sir Benfro, yn dangos be’ sy’n bosib i ffermwyr llaeth, a hynny pan mae’r diwydiant â’i gefn yn erbyn y wal.
Dyna’r neges yn Sioe Laeth Cymru a gynhaliwyd yn Nant-y-ci, Caerfyrddin, yr wythnos hon.
Fe fu nifer o aelodau a swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru draw i fferm Ffosyficer, i weld sut y mae Laurence Harris wedi llwyddo trwy ennill statws organig i’w laeth, a thrwy fentro i ben draw’r byd. Ac ymhlith yr ymwelwyr yr oedd Michael Eavis, trefnydd Gwyl Glastonbury, sydd hefyd yn ffermwr llaeth.
Ers cymryd drosodd fferm Ffosyficer oddi wrth ei dad yn 1970, mae wedi ymestyn y fferm deuluol o 150 erw i ymhell dros 3,000 erw o dir ffrwythlon.
Fe drodd y fferm at gynhyrchu’n organig yn 1999 ac, ers hynny, mae’r tîm wedi cynyddu’r cynnyrch llaeth a arweiniodd at lansio’r brand Daioni a chyfres o gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu yn rhyngwladol. Y teulu Harris sy’n berchen y busnes teuluol yn gyfan gwbwl bellach ac maen nhw’n cyflogi 20 o bobol leol.
Diwydiant yn diodde’
“Mae ein diwydiant llaeth wedi diodde’ yn ofnadwy oherwydd prisiau isel dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Brian Thomas, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod yr ymweliad â fferm Ffosyfier. “Mae nifer o gynhyrchwyr wedi gweld y siec laeth yn haneru ac yn gorfod delio gyda chytundebau annheg.
“Y gwirionedd yw bydd ein cynhyrchwyr llaeth yn gorfod delio gyda phrisiau anwadal yn y dyfodol. Tra bod yna ychydig o gynnydd ym mhrisiau wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, ac mae’n rhaid croesawu’r rhain, ni fyddwn yn gweld derbyn y pris llawn am sbel eto yn y dyfodol oherwydd yr anghydbwysedd rhwng cyflenwad a galw parhaol byd-eang.
“Mae manteisio ar farchnadoedd newydd yn rhan hanfodol ar gyfer y sector laeth yn dilyn Brexit,” meddai wedyn, “ac mae TB mewn gwartheg yn parhau i achosi problem sylweddol yma yn Sir Benfro.
“Rwy’n siomedig bod cynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio bellach cyn bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd wedi i’r Llywodraeth flaenorol roi’r gorau i’r cynllun gwreiddiol i ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”
Llwyddiant Daioni
* Yn 2008, cafodd llaeth blas Daioni ei allforio dramor am y tro cynta’, a bellach mae’n cael ei werthu ledled y byd yn ogystal â siopau bach a phrif archfarchnadoedd gwledydd Prydain;
* Yn 2012, Daioni oedd y cwmni llaeth cynta’ yng ngwledydd Prydain i ennill statws organig yn Tsieina ac yn 2014 agorwyd swyddfa yn Hong Kong i ganolbwyntio ar werthiant Pasiffig Asia. Bellach mae allforion yn gyfrifol am 15% o drosiant y busnes;
* Fe enillodd Mr Harris wobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC yn 2015.