Mae neges o gydymdeimlad gan Dywysog Cymru, oedd wedi’i dwyn o ardd goffa yn Aberfan, wedi ei dychwelyd.
I nodi hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan bu mab hynaf y Frenhines ar ymweliad â’r pentre’, a gosododd dorch gyda neges arni. Ond fe cafodd y neges ei ddwyn ac roedd rhai’n honni eu bod wedi’i weld ar werth ar wefan eBay.
Heddiw, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi derbyn pecyn dienw oedd yn cynnwys y neges, a bod y cerdyn wedi’i ddychwelyd i’r gymuned erbyn hyn.
“R’yn ni’n ddiolchgar bod pwy bynnag a’i cymerodd yn sylweddoli’r trallod yr oedd yn achosi i gymuned Aberfan, ac wedi gweld ei camgymeriad a’i ddychwelyd at ei berchnogion cyfiawn,” meddai’r Prif Arolygydd Marc Lamerton.
Fe gafodd 144 o bobol eu lladd, gan gynnwys 116 o blant yn ysgol gynradd Pantglas, pan syrthiodd tomen lo ar y pentref ar 21 Hydref 1966.