Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad yw’n barod i gefnogi Mesur Cymru gan fod “pryderon gwirioneddol” ganddo am y ddeddfwriaeth newydd.

Yn ôl Carwyn Jones, byddai’r mesur yn rowlio “gallu” Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl, gan ddweud nad yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gymeradwyo’r mesur i Aelodau Cynulliad.

Mae’r ddeddf, sydd i fod dod i rym erbyn y Nadolig, wedi cael ei beirniadu’n hallt gan nifer o Aelodau Cynulliad ac arbenigwyr hefyd.

Mewn ymateb i sylwadau Carwyn Jones, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi dweud y bydd “trafodaethau’n parhau” rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ar y mesur.

“Mae Mesur Cymru yn rhoi cyfle hanesyddol i gynulliad Cymru sicrhau mwy o bwerau a chreu setliad datganoli cryfach, gliriach a thecach i Gymru,” meddai mewn datganiad.

“Bydd trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru wrth i’r mesur fynd drwy’r Senedd a bydd digon o gyfle i ddadlau gwelliannau pellach dros yr wythnosau nesaf.”

Pwerau newydd

Dan y ddeddf newydd, bydd y Cynulliad yn cael statws Senedd go iawn am y tro cyntaf ac y bydd gan wleidyddion Cymru mwy o bwerau, gan gynnwys deddf ar dreth incwm, cyfyngiadau cyflymder, ffracio, porthladdoedd ac etholiadau.

Ond mae llawer wedi dweud bod y Mesur yn rhy gymhleth, yn rhy fiwrocrataidd ac y byddai’n rowlio’r broses ddatganoli yn ôl.

Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi’n beirniadu

Mae’r Mesur yn mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd, ac mae Pwyllgor Cyfansoddiad yr ail dŷ wedi beirniadu’r ddeddfwriaeth, gan ddweud ei fod yn aneglur.

Mae adroddiad y pwyllgor yn adleisio pryderon eraill bod ‘na ddiffyg eglurder ynghylch pa bwerau fydd yn cael eu datganoli a pha rai fydd yn cael eu cadw yn ôl gan Lywodraeth Prydain.

Yn ôl y pwyllgor, byddai angen deddfwriaeth arall ar ôl cyflwyno Mesur Cymru i egluro’r setliad newydd sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Er bod y pwyllgor yn croesawu’r model newydd dan Fesur Cymru a fyddai’n symud y mesur i fodel “cadw pwerau yn ôl”, mae’n dweud bod y rhestr o eithriadau “mor faeth”, a bod y profion cyfreithiol mor “gymhleth ac annelwig” y gallai arwain at “ddryswch ac ansicrwydd cyfreithiol”.

Mae disgwyl i bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi drafod y mesur ddydd Llun, Hydref 31.