Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
“Hinsawdd ariannol heriol” sy’n cael y bai am golledion ariannol y Mudiad Meithrin o bron i hanner miliwn o bunnoedd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwetha’.
Mae’r mudiad wedi colli £471,000, o gymharu â cholledion gwerth £181,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2015.
Yn ôl y Mudiad Meithrin, mae’r golled yn dod o “nifer fawr o feysydd gwahanol” sy’n cynnwys dibrisiant (£264,000), lleihad o £120,000 gan gynghorau sir, lleihad yn yr incwm masnachol, a llai o roddion.
Bu colledion yn is-gwmni’r mudiad hefyd, yn siop ‘Dewin a Doti’, gyda’r Mudiad Meithrin yn cadarnhau y bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben ac y bydd un aelod o staff yn colli ei swydd o’r herwydd.
Mae’r mudiad wedi cadarnhau hefyd y bydd crèche yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn cau ar Dachwedd 12 oherwydd “diffyg diddordeb yn y gwasanaeth”, gyda bwriad i adleoli’r staff yno.
Dydi’r Mudiad Meithrin ddim wedi cadarnhau os y bydd rhagor o swyddi’n cael eu colli yn sgil ymdrechion i arbed arian.
Cynllun i ddod dros y golled
“Mae’r hinsawdd ariannol yn heriol gyda sefydliadau cyhoeddus i gyd yn torri gwariant,” meddai llefarydd ar ran y Mudiad Meithrin wrth golwg360.
“Mae tîm cryf o staff wedi’i sefydlu yn yr adran gyllid bellach a gwell rheolaeth ar ein holl systemau yn dilyn adolygiad. Mae gwaith eto i’w wneud.
“Mae’r Tîm Strategol yn adolygu’r gyllideb yn rheolaidd ac yn cadw golwg barcud ar y costau ac incwm ac yn ymgeisio am grantiau amrywiol a ffynonellau ariannol amgen.
“Yn sgil yr ail-strwythuro llynedd hefyd fe benodwyd Swyddog Digwyddiadau Codi Arian, gyda tharged blynyddol i ymgyrraedd ato… Rhagwelir blwyddyn ariannol heriol eto eleni.”