Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ladron ddefnyddio cerbyd i daro ffenestri adeiladau er mwyn dwyn ceir.
Mae pedwar digwyddiad wedi’u cofnodi yn ardal Blaenau Gwent rhwng dydd Llun a dydd Mawrth, Hydref 24-25.
Cafodd unedau eu targedu ar Ystâd Ddiwydiannol y Rising Sun yn y Blaenau, Ystâd Ddiwydiannol Cwm Draw yng Nglyn Ebwy, Ystâd Ddiwydiannol Crown Avenue ac yn Ystâd Ddiwydiannol Sirhywi yn Nhredegar.
Dau gerbyd gafodd eu dwyn ym Mlaenau Gwent, ac fe gawson nhw eu darganfod yn ardal Nant-y-glo yn ddiweddarach, ynghyd â char arian y mae’r heddlu’n credu a gafodd ei ddefnyddio i daro’n erbyn yr adeiladau.
Cyngor i yrwyr
Y cyngor i yrwyr yr ardal yw sicrhau bod eu hallweddi’n cael eu cadw ar wahân o’u cerbydau ac o’r golwg, meddai Heddlu Gwent.
Maen nhw hefyd yn cynghori pobol i dynnu pob eiddo o’u ceir dros nos, ac i sicrhau bod eu ceir wedi’u cloi bob amser.