Mae gŵr o Borthmadog yn teimlo fod angen tynnu mwy o sylw at hanesion clybiau rygbi gogledd-orllewin Cymru.
Fe fydd Arthur Thomas yn trafod yr hanes, ynghyd â sut mae’r clybiau hyn yn wahanol i glybiau rygbi’r de, wrth draddodi Darlith Goffa Merfyn Williams ym Mhlas Tan y Bwlch heno (nos Fercher, Hydref 26).
Yn ôl Arthur Thomas, sy’n golofnydd i’r Cymro ac yn gyn-athro ysgol uwchradd, mae hanes unigryw ynghlwm â chlybiau rygbi’r ardal honno.
“Maen nhw’n cyd-fynd â’r deffroad cenedlaethol,” meddai gan ddweud eu bod wedi dod i fodolaeth ymysg dylanwadau gwleidyddol ac ymgyrchoedd iaith yng Nghymru, gan sbarduno oes aur o fewn y gamp yn yr 1970au a’r 1980au.
‘Hwb i Gymru’
Bu Arthur Thomas ei hun yn chwarae i glybiau rygbi Bro Ffestiniog a Nant Conwy, ac roedd yn un o sylfaenwyr clwb rygbi Nant Conwy yn Llanrwst sy’n mynd o nerth i nerth erbyn heddiw.
Mae’n gobeithio y bydd ei ymchwil yn arwain at gyhoeddi llyfr am hanes clybiau rygbi gogledd a gorllewin Cymru.
Ac mae’n cydnabod fod pêl-droed yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar hyn o bryd yn sgil llwyddiant diweddar Cymru yn yr Ewros, ond i Arthur Thomas, mae lle i’r ddwy gamp wrth i’w llwyddiant “roi hwb i Gymru ei hun.”
Straeon Rygbi Gogledd-Orllewin Cymru
Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, nos Fercher, Hydref 26, 7.30pm