Mae Rowland Phillips wedi cyhoeddi ei garfan gyntaf fel prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru.
Cafodd Phillips – cyn-brif hyfforddwr dynion dan 18 Cymru, Castell-nedd, Cymry Llundain ac Aironi – ei benodi ym mis Gorffennaf.
Yn ei garfan gyntaf i herio’r Alban ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn (12 o’r gloch), mae Phillips wedi enwi ei ferch Carys, bachwr Cymru, yn gapten.
Yn ymuno â hi yn y rheng flaen mae Caryl Thomas a Meg York.
Siwan Lillicrap a Rebecca Rowe fydd yn yr ail reng, tra bod Alisha Butchers, Sioned Harries a Shona Powell-Hughes yn y rheng ôl.
Yr haneri yw Sian Moore ac Elinor Snowsill, tra bod Rebecca De Filippo a Kerin Lake yn y canol.
Yr esgyll yw Ffion Bowen a Charlie Murray, a Dyddgu Hywel yn safle’r cefnwr.
Wrth gyhoeddi’r garfan, dywedodd Rowland Phillips: “Ry’n ni’n falch iawn o alw Parc yr Arfau BT yn gartref y tymor hwn, ac mae’r gêm ddydd Sadwrn yma’n ffordd ardderchog o ddechrau ar ein hymgyrch yn y brifddinas.
“Ry’n ni wedi cael cwpwl o wythnosau da wrth ymarfer, felly mae nifer o benderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud, ond y nod yw cael pawb yn chwarae rywfaint gyda gêm yn erbyn Lluoedd Arfog y DU i ddod ar Sul y Cofio.”
Tîm Cymru: D Hywel, C Murray, K Lake, R De Filippo, Ff Bowen, E Snowsill, S Moore; C Thomas, C Phillips (capten), M York, S Lillicrap, R Rowe, A Butchers, S Harries, S Powell-Hughes
Eilyddion: M Ifans, C Hale, A Evans, M Clay, S Williams, A Taviner, J Evans, K Bevan, G Rowland, H Jones, J Kavanagh-Williams, R Fletcher