A fydd Morgannwg yn cael eu gorfodi gan Loegr i chwarae gêm griced dan y llifoleuadau yn 2017?
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi dweud wrth Golwg360 eu bod nhw’n disgwyl clywed o fewn pythefnos a fyddan nhw’n un o’r siroedd fydd yn cynnal gêm Bencampwriaeth dan y llifoleuadau yn 2017.
Am y tro cyntaf erioed yn Lloegr, fe fydd gêm brawf o dan y llifoleuadau yn 2017 wrth i’r Saeson groesawu India’r Gorllewin i Edgbaston, cartref Swydd Warwick, fis Awst nesaf.
Er mwyn paratoi chwaraewyr Lloegr at yr her, mae disgwyl i’r siroedd gynnal un rownd o gemau pedwar diwrnod o dan y llifoleuadau.
Yn wahanol i’r arfer, fe fydd chwaraewyr sy’n cynrychioli Lloegr ar gael i’w siroedd ar gyfer y rownd hon o gemau.
Ond dydy hi ddim yn glir eto pwy fydd yn cynnal y gemau, gan na fydd y rhestr derfynol yn cael ei chyhoeddi am hyd at bythefnos arall.
Fe fydd y cystadlaethau unigol – y Bencampwriaeth pedwar diwrnod, gemau ugain pelawd y T20 Blast a’r gwpan 50 pelawd – yn cael eu cynnal mewn blociau y tymor nesaf, yn hytrach na chael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd.
Ar ben hynny, fe fydd rhaid i’r gemau gael eu cynnal pan na fydd Lloegr yn chwarae gêm brawf er mwyn i’r chwaraewyr rhyngwladol gael chwarae.
Fe fydd y gemau arbrofol yn cael eu chwarae gan ddefnyddio pêl binc – sydd hefyd yn estron i chwaraewyr y siroedd er iddi gael ei defnyddio mewn gêm Bencampwriaeth rhwng Swydd Gaint a Morgannwg yng Nghaergaint yn 2011.
Bryd hynny, cafodd y gêm ei beirniadu gan selogion Swydd Gaint, oedd yn anghydweld â rhesymeg Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ac yn gwrthwynebu cael eu defnyddio fel rhan o arbrawf ar gyfer tîm Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Criced Morgannwg na fyddan nhw’n gwneud sylw cyn i’r rhestr gemau gael ei chyhoeddi.