(Llun Gwasanaeth Ambiwlans Cymru)
Fe lwyddodd y gwasanaeth ambiwlans i ymateb i bron 80% o alwadau brys o fewn wyth munud ym mis Medi, o dan gynllun targed newydd gan Lywodraeth Cymru.

Ar ben hynny,  roedd ambiwlans ar y safle o fewn pedwar munud a hanner mewn tua 50% o’r achosion dan sylw.

Yn y flwyddyn gyntaf o gynnal y peilot newydd o’r model ymateb clinigol, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cyrraedd y targedau ar gyfer amser ymateb ambiwlans.

Roedd 79.5% o alwadau lle’r oedd perygl o golli bywyd, neu ‘alwadau coch’, wedi derbyn ymateb o fewn wyth munud – cynnydd o 1.4% ar y mis blaenorol. Yn ôl y targed, dylai 65% o alwadau coch dderbyn ymateb o fewn wyth munud.

 ‘Cadarnhaol iawn’

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd  Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: “Mae’r rhain yn ffigurau cadarnhaol iawn.

“Mae’r model ymateb clinigol newydd hwn yn rhoi blaenoriaeth i’r galwadau mwyaf brys ac yn sicrhau bod ymateb yn cael ei roi yn gyflym pan fo angen hynny.”