Llun: PA
Mae graffiti ar balmentydd Aberystwyth yn galw ar drigolion y dref i gael eu brechu yn erbyn ffliw.
Mae’r ‘graffiti glân’ yn rhan o ymgyrch ‘Curwch Ffliw Cymru’ Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae’n targedu pobol dros 65 oed, pobol sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a menywod beichiog – y rhai sy’n gymwys i dderbyn y brechlyn rhad ac am ddim.
Mae gofalwyr a gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf brys hefyd yn gymwys i dderbyn y brechlyn.
Caiff ei roi drwy’r fraich i oedolion a thrwy’r trwyn i blant.
Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen gael y brechlyn fel rhan o’u gofal iechyd galwedigaethol, i amddiffyn eu hunain a’r sawl y maent yn gofalu amdanynt.
#curoffliw wedi cyrraedd strydoedd #aberystwyth lledaenwch y neges, nid y ffliw! Ewch am eich brechiad #graffitiglân https://t.co/Dn7lbnhw9N pic.twitter.com/YtbESDWjUf
— BwrddIechydHywelDda (@BIHywelDda) October 26, 2016
‘Lledu’r neges’
Mewn datganiad, dywedodd Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym eisiau lledu’r neges gymaint ag y gallwn fod amddiffyniad rhad ac am ddim ar gael i bobl mewn grwpiau risg.
“Mae ffliw’n gallu bod yn ddifrifol iawn ond mae cael eich brechu yn cynnig amddiffyniad da iawn, felly gofalwch nad ydych yn colli’r cyfle.
“Mynnwch gael eich diogelu rhag ffliw dros y gaeaf.”
‘Diogelu ein cymunedau’
Mae Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Teresa Owen, hefyd wedi annog pawb sy’n gymwys i gael y pigiad ffliw.
“Rydym yn mynd ati i gefnogi ymgyrch Curo’r Ffliw er mwyn diogelu ein cymunedau lleol ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.
“Mae’n bwysig iawn cael y brechiad hwn os ydych yn 65 oed neu hŷn, yn feichiog, neu â chyflwr iechyd sy’n eich rhoi mewn perygl o gymhlethdodau’r ffliw er enghraifft os oes gennych ddiabetes, clefyd y galon neu glefyd anadlol cronig – derbyniwch y cynnig am frechiad am ddim.”
Gall unrhyw un sy’n gweld y ‘graffiti’ Curwch Ffliw o gwmpas y dref ymuno yn yr ymgyrch i guro ffliw trwy rannu llun ar-lein trwy drydar @curwchffliw #curwchffliw @beatflu #beatflu neu ei rannu ar dudalen Facebook Curwch Ffliw neu Beat Flu.