Mae penderfyniad dau gyngor sir i wrthod darparu gwasanaeth Cymraeg yn “anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Mae cynghorau sir Penfro a Chaerffili wedi apelio yn erbyn wyth o ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Yn ôl Deddf Iaith 1993, mae gan bob corff cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, ac mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol ers 2011 sy’n golygu na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ond mae Cyngor Sir Penfro wedi apelio yn erbyn pedair dyletswydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â llesiant.
Mae Cyngor Sir Caerffili’n apelio yn erbyn yr hawl sydd gan bobol i gyfathrebu yn Gymraeg yn nerbynfeydd yr awdurdod lleol, er i’r Cyngor ymrwymo yn 2012 i sicrhau bod modd i “unrhyw gwsmer sy’n dymuno ymwneud â’r Cyngor yn Gymraeg heb fwy o oedi nag sydd rhaid wrtho”.
Dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n ystyried cofrestru fel trydydd parti er mwyn gwrthwynebu’r apêl mewn tribiwnlys.
‘Amddifadu’ pobol o wasanaethau Cymraeg
Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd grŵp hawl y Gymdeithas, Manon Elin: “Bydd yr hawliau hyn sy’n ymwneud â llesiant yn effeithio ar bobl fregus – plant, pobl hŷn a phobl mewn sefyllfa o wendid.
“Mae’n anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus i’r Cyngor fynd drwy broses er mwyn gwadu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
“Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod y Safonau ar y cyngor gyda buddiannau pobl mewn golwg, felly pam fod Cyngor Sir Benfro mor benderfynol o herio hyn eto?
“Dydyn ni ddim yn mynd i adael i rai o’n pobl fwyaf bregus gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan fod ei angen fwyaf arnynt.
“Beth am i’r Cyngor roi amser ac ymdrech i gynyddu’i ddarpariaeth Gymraeg a hyfforddi staff a chefnogi staff i allu gweithio’n Gymraeg, yn lle gwastraffu arian ac amser ar gyngor cyfreithiol er mwyn ceisio gwadu hawliau sylfaenol pobl i ddefnyddio’r Gymraeg?”
“Cafodd pob corff cyhoeddus dros ugain mlynedd i weithio ‘tuag at drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal’, ond maen nhw nawr yn honni ei fod yn rhy anodd i wireddu eu haddewid.
“Wedi ugain mlynedd o esgeuluso eu dyletswyddau cyfreithiol, mae’n gwbl amlwg bod eu heriau i’r hawliau cyfreithiol newydd yn gwbl afresymol.”