Mae Dŵr Cymru wedi lansio ymgyrch sy’n apelio ar bobol i beidio â thywallt olew a saim i’r sinc neu daflu cadachau gwlyb i lawr y toiled.
Mae gweithredoedd o’r fath yn arwain at tua 2,000 o achosion o flocio draeniau bob mis, yn ôl y cwmni dŵr, sydd hefyd yn dweud nad yw pobol yn ymwybodol o’r effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
Weips gwlyb a chewynnau yw’r broblem fwyaf, yn ôl ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc.
Y llynedd, fe dynnodd Dwr Cymru 1.3 miliwn o ffyn cotwm bach o’r rhwydwaith ddŵr hefyd.
Meddai’r ymgyrch: “Pan mae draen yn cael ei rwystro, mae’n medru achosi llifogydd yn eich cartref neu gartrefi cyfagos. Mae hefyd yn medru arwain at lygredd amgylcheddol gyda niwed i afonydd a thraethau.”