Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Bydd Theresa May yn cyfarfod arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon heddiw mewn ymdrech i dawelu’r pryderon am y ffordd mae hi wedi trin sefyllfa Brexit.
Dywedodd Downing Street y bydd y Prif Weinidog yn dweud wrth arweinwyr y gwledydd datganoledig, sy’n pryderu am Brexit ‘caled’, nad oes penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud eto a’i bod yn barod i wrando arnyn nhw.
Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn y cyfarfod ynghyd a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, ac arweinydd Gogledd Iwerddon Arlene Foster a’i dirprwy Martin McGuinness.
Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn awyddus i sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn rhan o’r farchnad sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Maen nhw hefyd yn gofyn am bleidlais ymysg arweinwyr gwledydd y DU ynglŷn â chynlluniau Theresa May cyn iddi ddechrau proses Brexit yn ffurfiol.
‘Sicrhau’r fargen orau i Gymru ’
Dywedodd Carwyn Jones mewn cyfweliad gyda’r Post Cyntaf bore ma nad oedd yn mynd i’r cyfarfod heddiw er mwyn anghytuno. Yn hytrach, meddai, mae eisiau sicrhau bod Theresa May yn mynd i’r trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd gyda’r llaw gryfaf posib er mwyn sicrhau’r fargen orau i Gymru a’r DU.
Ychwanegodd y byddai’n “argyfwng” i Gymru petai’r DU yn gadael y farchnad sengl yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd a’i fod eisiau sicrhau amodau economaidd sydd wedi gweld gostyngiad yn nifer y di-waith yng Nghymru’n ddiweddar.
Meddai Carwyn Jones: “Beth sy’n holl bwysig yw sicrhau bod dim byd yn cael ei wneud sy’n lleihau’r llwyddiant ry’n ni wedi cael yn denu swyddi mewn i Gymru.
“Mae angen bod yn realistig iawn a gweithio’n galed iawn i sicrhau nad ydyn ni mewn sefyllfa ble ry’n ni’n colli swyddi achos Brexit.”
‘Partneriaeth gyfartal’
Ychwanegodd Carwyn Jones mewn llythyr at Theresa May: “Rydyn ni’n credu y dylai Fframwaith Trafod y DU gael ei ddatblygu – yn seiliedig ar egwyddorion ac amcanion sy’n gysylltiedig â thanio Erthygl 50 – ac y dylai fod yn destun pleidlais ym mhob un o’r pedair senedd a chynulliad yn y Deyrnas Unedig.
“Byddai patrwm gweithredu o’r fath yn adlewyrchu sefyllfa ddatganoledig Llywodraeth y DU – bod y Deyrnas Unedig yn deulu o genhedloedd, yn bartneriaeth gyfartal.”
Dywedodd hefyd y dylai’r “fargen” derfynol gyda’r UE wynebu pleidlais yn seneddau a chynulliadau’r DU.
‘Fforwm’
Er mwyn tawelu meddyliau’r gwledydd datganoledig yn bellach, Mae’r Theresa May hefyd wedi cynnig “cysylltiad uniongyrchol” at Ysgrifennydd Brexit David Davis, a fydd yn cadeirio’r fforwm newydd gyda chynrychiolwyr o San Steffan, Holyrood, Bae Caerdydd a Stormont er mwyn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa iddyn nhw.
Os yw’r arweinwyr eraill yn cytuno, gall y fforwm gyfarfod ddwywaith cyn y Nadolig.
Ychwanegodd Carwyn Jones: “Rydyn ni eisiau chwarae rhan lawn, weithredol a phositif wrth ymateb i Brexit ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd o ochr Llywodraeth y DU hefyd.
“Os na all Llywodraeth y DU sicrhau sefyllfa gytûn gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, does dim llawer o obaith o sicrhau cytundeb Brexit da gyda’r 27 o wledydd yn yr UE.”