Ffoaduriaid yn gadael gwersyll Y Jyngl yn Calais, Ffrainc Llun: John Stillwell/PA Wire
Mae cannoedd o ffoaduriaid ac ymfudwyr wedi dechrau gadael gwersyll “Y Jyngl” yn Calais bore ma.

Cafodd y giatiau eu hagor gan yr heddlu am 7 fore dydd Llun gyda thorfeydd yn ciwio yn y tywyllwch er mwyn cofrestru ar gyfer canolfannau mewn llefydd eraill yn Ffrainc.

Mae’r ffoaduriaid wedi cael rhybudd bod yn rhaid iddyn nhw adael y gwersyll neu wynebu cael eu harestio neu eu hestraddodi.

Dywedodd rhai nad oedd syniad ganddyn nhw le’r oedden nhw am fynd ond mae disgwyl i’r gwaith o ddymchwel y gwersyll ddechrau yfory.

Fe fu na wrthdaro ffyrnig rhwng trigolion y gwersyll a heddlu terfysgol Ffrainc dros y penwythnos, gyda ffoaduriaid yn taflu cerrig at swyddogion yr heddlu a’r heddlu’n ymateb drwy danio nwy dagrau at y dorf.