Mynwent Aberfan
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn “falch” o’r ymateb i ddigwyddiadau i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb glofaol Aberfan.
Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd ar Hydref 21, 1966 wrth i domenni gwympo o Fynydd Merthyr tros y pentref, gan daro Ysgol Gynradd Pantglas am 9.15 y bore.
Y bwrdd glo oedd yn gyfrifol am y safle, oedd wedi’i godi ar ben ffynhonnau.
Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Sunday Politics Wales: “Ro’n i’n ddeunaw oed pan es i yno gyntaf.
“Fe sefais i yn y fynwent ac edrych i lawr ar y pwll glo – Ynysowen ar y pryd – oedd yn weithredol.
“Yn fy arddegau, ro’n i’n credu ei bod yn drist iawn. Pan fo gyda chi blant, mae’n chwyddo maint colled pobol eraill ac i fi, roedd yn emosiynol iawn ddydd Gwener.
“Roedd yn emosiynol iawn yn y Cynulliad ddydd Mercher wrth i fi adrodd geiriau a ddaeth o’r galon.
“Dydy hi ddim yn teimlo fel hanner can mlynedd i bobol Aberfan ac mae’n dangos pam na allwn ni anghofio a pham na ddylen ni anghofio.
“Dros gyfnod o amser, ry’n ni’n gwybod fod effaith digwyddiad yn lleihau ond ddylai’r atgofion ddim. Ymhen 50 mlynedd, fydd neb ar dir y byw yn ei gofio.
“Roedd hyn cyn i fi gael fy ngeni. Ond roedd fy mam yn siarad amdano’n aml. Roedd hi’n fy nisgwyl i ar y pryd. Roedd fy mam-yng-nghyfraith yn disgwyl fy ngwraig ar y pryd. Ac roedd y ddwy ohonyn nhw’n athrawon.
“Bydd yr atgofion personol yn pylu, wrth gwrs, wrth i bobol farw ond ni ddylid gadael i’r cofio gael ei golli byth.”
Munud o dawelwch
Dywedodd ei fod yn falch fod munud o dawelwch wedi’i gynnal ledled Cymru i nodi’r achlysur.
“Dydy geiriau ddim yn mynd i helpu, ry’n ni’n gwybod hynny. Ond dw i’n credu ei bod yn helpu pobol i wybod fod yna bobol eraill sy’n meddwl amdanyn nhw ar y diwrnod hwnnw.
“Ar ddiwedd y dydd, does dim ots – 50 mlynedd, 49 mlynedd, 51 mlynedd – yr un yw’r boen.”