Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru (llun gan Blaid Cymru)
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymosod ar Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru am annog cyfreithloni canabis at ddefnydd meddygol.
Roedd y Comisiynydd, Arfon Jones, a gafodd ei ethol yn enw Plaid Cymru, wedi ysgrifennu at Aelodau Cynullliad yn gofyn am gefnogaeth i grŵp seneddol amhleidiol sy’n ymgyrchu dros gyfreithloni canabis meddygol.
Mae Darren Millar, AC Gorllewin Clwyd, yn cyhuddo’r Comisiynydd o fod yn “anghyfrifol”.
“Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, mae Arfon Jones, yn gwybod o’i brofiad ei hun am yr effeithiau dinistriol y mae cyffuriau’n eu cael ar ein cymunedau,” meddai.
“Mae canabis, boed ar gyfer dibenion meddygol neu adloniant, yn sylwedd peryglus a fyddai’n cael effaith trychinebus ar iechyd a chymdeithas petai’n cael ei gyfreithloni byth.
“Sut y gallwn fod yn galw am roi’r gorau i ysmygu ar y naill law ac annog defnyddio canabis sy’n cael ei gymryd yn ffurf mwg gan amlaf?
“Mae galwadau’r comisiynydd yn anghyfrifol a fyddai’n arwain at agweddau ffwrdd-â-hi tuag at gyffuriau.”
‘Y ddadl wedi symud ymlaen’
Wrth ymateb, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones: “Rwyf wedi cyhoeddi llythyr yn cefnogi’r alwad gan fy nghydweithiwr, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Durham, Ron Hogg, sy’n gyn-ddirprwy brif gwnstabl, o blaid cyfreithloni canabis ar gyfer defnydd meddyginiaethol yn unig.
“Mae’r ddadl ynghylch polisi cyffuriau wedi symud ymlaen yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar ac mae’r farn o blaid cyfreithloni canabis ar gyfer defnydd meddyginiaethol yn cael ei arddel nid yn unig gen i, ond yn hefyd gan lawer o Gomisiynwyr o bob safbwynt gwleidyddol.
“Mae fy safbwynt ar gyffuriau wedi ei ddatgan yn gyhoeddus ar sawl achlysur ac roedd yn rhan o fy maniffesto pan oeddwn yn sefyll i gael fy ethol fel Comisiynydd – etholiad a enillais gyda mwyafrif sylweddol.
“Mae grŵp Seneddol Trawsbleidiol wedi galw am gyfreithloni’r cyffur ar gyfer defnydd meddyginiaethol ac mae ymchwil sylweddol yn amlygu bod ei ddefnyddio o fudd mawr i ddioddefwyr sglerosis ymledol (MS) a mathau eraill o salwch, a bod o leiaf 30,000 o bobl yn ei ddefnyddio yn ddyddiol.
“Gall salwch fod yn brofiad ynysig, yn enwedig os yw eich meddyginiaeth yn anghyfreithlon, ac nid yw’n iawn fod pobl sy’n chwilio am ryddhad rhag dioddefaint yn cael eu labelu’n droseddwyr oherwydd eu bod yn defnyddio canabis i drin eu salwch.”