Mae dyn sy’n cael ei amau o gynnau tân bwriadol ym Mhrestatyn, ar ôl methu ag ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol, wedi cael ei arestio yn Swydd Gaerloyw.
Cafodd Richard Pentreath – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Hilary Clifford Thomas – ei arestio gan Heddlu’r Met ac fe fydd yn cael ei gludo I Ogledd Cymru I’w holi ymhellach.
Fe wnaeth y Ditectif Jason Devonport o Heddlu Gogledd Cymru ddiolch am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd iddo.
Mae Richard Pentreath wedi’i amau o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd yn oriau mân bore Iau, 6 Hydref.
Methodd y dyn 63 oed ag ymddangos gerbron Llys y Goron Woolwich yn Llundain ar 3 Hydref ar gyhuddiad o droseddau hanesyddol o dreisio. Fe’i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb, ac fe gafodd gwarant ar gyfer ei arestio ei chyhoeddi.