Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi galw y posibilrwydd o gael ‘Brexit caled’ yn “anwladgarol”.
Roedd Hywel Williams, AS dros Arfon, yn siarad yng nghanhadledd y blaid yn Llangollen.
Mae Brexit caled yn golygu gadael y Farchnad Sengl pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Does dim cyhoeddiad wedi bod eto ar y math o Brexit fydd yn digwydd ond mae llawer yn disgwyl na fydd Prydain yn aros yn rhan o’r Farchnad Sengl.
“Trychinebus” i economi Cymru
Yn ôl Hywel Williams, byddai gadael yr undeb economaidd yn “drychinebus” i economi Cymru, ac yn rhoi masnach Cymru mewn perygl mawr.
Dywedodd fod Cymru’n allforio mwy nag y mae’n mewnforio, sy’n wahanol i’r Deyrnas Unedig ar y cyfan.
“Mae’r Ceidwadwyr o hyd yn siarad am wladgarwch a gwerthoedd Prydeinig ond does dim byd gwladgarol am y ffordd maen nhw’n ymddwyn,” meddai Hywel Williams.
“Er gwaethaf eu geiriau, dydy hi ddim yn wladgarol i’r Ceidwadwyr danseilio swyddi, twf economaidd a chyfleoedd bywyd i bobol yr ynysoedd hyn yn y dyfodol drwy ei rhethreg senoffobaidd.”