Fe fydd rheolwr Cymru yn cael rhyddid Abertawe mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas nes ymlaen heddiw.
Chris Coleman wnaeth arwain Cymru i rowndiau cynderfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.
Dywedodd yr Arglwydd Faer David Hopkins: “Mae Chris yn falch ei fod yn dod o Abertawe ac mae’n llysgennad gwych i’r ddinas, ac mae’n gwbl haeddiannol i gymryd yr anrhydedd uchaf y gallwn ei roi.”
Ymhlith eraill sydd wedi derbyn rhyddid y ddinas mae’r Arlywydd Jimmy Carter, a’r pêl-droediwr John Charles.
Yn dilyn y seremoni, fe fydd James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers yn perfformio yn Neuadd Brangwyn.
Mae David Hopkins yn argyhoeddedig o rinweddau rheolwr Cymru: “Fe gymrodd Chris Coleman yr awenau mewn amgylchiadau anodd iawn yn dilyn marwolaeth drasig Gary Speed. Ond rydym bellach wedi cymryd ef i’n calonnau.
“Ni all neb anghofio beth wnaeth y tîm yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Roedd yn amser lledrithiol i bêl-droed Cymru, gyda Chris yn arwain ei ddynion i’r rowndiau cynderfynol gan danio’r gystadleuaeth gyda pherfformiadau ysbrydoledig.”