Mae’r gêm bêl-droed Ewropeaidd rhwng Y Seintiau Newydd a Livingston yn y fantol ar ôl i’r tîm Albanaidd gael eu canfod yn euog o ddewis chwaraewr anghymwys mewn gêm flaenorol.
Cafodd Alan Lithgow ei ddewis i chwarae ym mhedwaredd rownd y gwpan Albanaidd yn erbyn Crusaders ar Hydref 7 er ei fod e wedi ei wahardd.
O ganlyniad, mae Livingston yn destun ymchwiliad, ac fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal ar Hydref 24.
Pe bai Livingston yn cael eu canfod yn euog, fe allen nhw gael rhybudd, cerydd, dirwy, diddymu canlyniad y gêm, ail-chwarae’r gêm neu golli’r gêm.
Mae disgwyl i’r Seintiau Newydd herio Livingston ar Dachwedd 13, a’r gêm yn fyw ar S4C.