Mae uwch hyfforddwr ffitrwydd yng Nghanolfan Maendy, Caerdydd wedi dod yn bencampwr codi pwysau’r byd.

Enillodd Phil Carleton Bencampwriaeth y Byd Undeb Codi Pwysau’r Byd (WPU) yn y categori 90kg i ddynion yn Coventry yr wythnos ddiwetha’. Roedd Phil yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y bencampwriaeth.

Fe gododd gyfanswm o 630 kg yn ei holl godiadau i gael ei goroni’n Bencampwr y Byd, a hynny wedi iddo wneud ei holl hyfforddi mewn ystafell bwysau yng Nghaerdydd, rhwng ei shifftiau gwaith.

“Mae’n deimlad rhyfedd ar hyn o bryd, ond dw i wedi mwynhau Pencampwriaethau’r Byd ac yn amlwg rwy’n falch iawn o fy mherfformiad ac o ymdrechion y rhai sydd wedi fy nghefnogi’r holl ffordd,” meddai Phil Carleton. “Rwy’n mynd i gael seibiant o godi pwysau yn awr i orffwys ond byddaf yn ystyried cystadlu eto’r ha’ nesa’.”

Dim ond 6 wythnos yn ôl y dechreuodd Phil hyfforddi ar gyfer codi pwysau cystadleuol cyn dod yn bencampwr gwledydd Prydain ym mis Awst.