Mae sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru’n “hanfodol” er mwyn cael mwy o bobol ifanc i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth a sicrhau bod mwy o bobol ifanc yn pleidleisio.
Dyna fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ddweud mewn dadl yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw.
Yn ôl adroddiad gan Gymdeithas Hansard yn 2014, dim ond 16% o bobol 18-24 oed ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio mewn etholiad, o’i gymharu â 58% ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio pe bai ganddyn nhw farn gref am fater penodol.
Adeg yr adroddiad, roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi torri cefnogaeth ariannol i Senedd Plant a Phobol Cymru, menter a gafodd ei sefydlu er mwyn ennyn diddordeb plant a phobol ifanc mewn datganoli.
Ar y pryd, cafodd y penderfyniad ei gwestiynu gan y Comisiynydd Plant ar y pryd, Keith Towler ar y sail y gallai fod yn groes i Gonfensiwn Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig.
Mae Cymru’n un o chwe gwlad sydd â datganoli ond sydd heb senedd ieuenctid.
Yn 2015, pleidleisiodd 65% o Gymry yn etholiadau San Steffan, ond dim ond 45% bleidleisiodd yn etholiadau’r Cynulliad.
“Diben y ddadl heddiw yw sicrhau bod plant a phobol ifanc Cymru’n cael y cyfle i gael lleisio barn am faterion sydd o bwys iddyn nhw, ac i sicrhau bod gwleidyddion a phobol eraill sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru’n gwrando ar eu lleisiau,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg.
“Mae ymrwymiad cynnar yn hanfodol er mwyn sefydlu pwysigrwydd y broses ddemocrataidd ymhlith etholwyr yfory.
“Mae sefydlu cynulliad ieuenctid sydd ag adnoddau da yn gam hanfodol wrth sicrhau ymrwymiad pobol ifanc yng ngwleidyddiaeth Cymru yn y dyfodol. Mae’r sefydliad gwleidyddol wedi rhannu cyfrifoldeb er mwyn sicrhau bod pobol yn teimlo digon o ysgogiad i droi allan ar ddiwrnodau etholiadau.”