Mae yna ddiffyg strategaeth wrth benderfynu pa gynlluniau pŵer hydro sy’n cael eu caniatau o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, a’r effaith niweidiol a allai hynny ei gael ar afonydd a bywyd gwyllt yr ardal.

Dyna bryder mudiad cadwriaethol, Cymdeithas Eryri, sy’n dweud fod tystiolaeth newydd yn dangos bod rhai cynlluniau creu trydan gyda dwr afonydd, yn defnyddio rhwng 15-20% yn fwy o ddwr nag sy’n gyfreithlon.

Yn ôl John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, mae angen gosod cap ar faint o gynlluniau sy’n cael eu cymeradwyo ac o ba afonydd y caiff y dŵr ei gymryd.

Mewn unrhyw gynllun, Parc Cenedlaethol Eryri sydd yn rhoi’r caniatâd cynllunio, a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd yn delio efo’r drwydded tynnu dŵr, sy’n penderfynu faint o ddŵr y caiff ei ddefnyddio o’r afon i greu trydan.

Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a’i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri.

‘Llwyth o gynlluniau’

Meddai John Harold wrth golwg360: “Mae llwyth o gynlluniau hydro ar y ffordd yn y Parc [Cenedlaethol Eryri] ac mae nifer yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a nifer yn dechrau yn fuan. Mi ydan ni’n credu bod pryderon ynglŷn ag effeithiau ar y tirwedd, y tirlun, y bywyd gwyllt ac ecoleg yr afonydd – dim hefo pob un, ond mae sawl yn un peri pryder.

“Os ydach chi’n tynnu dŵr allan o afon, mae’r afon ei hun yn newid. Hefo mathau o ynni gwyrdd eraill, fe fydd yr haul yn dal i wenu a’r gwynt yn dal i chwythu ond yn y tymor hir mae ganddom ni bryderon dros effeithiau ar fywyd gwyllt .

“Mae rhai o’r cynlluniau yn torri amodau cynllunio, mae rhai yn torri amodau trwydded tynnu dŵr ond yn y bôn diffyg strategaeth sydd yma. Does neb hefo uwch gynllun ac mae pobol yn pwyntio bys ar ei gilydd.

“Hefo ffermydd gwynt, mae pobol yn mynd i ddadlau ynglyn a’u lleoliad ond o leiaf mae strategaeth mewn lle – mae yna fap lle mae’r awdurdodau wedi dweud lle mae’n bosib a ddim yn bosib adeiladu. Does neb wedi gwneud hynny hefo cynlluniau hydro. Does dim targed o ran niferoedd chwaith – mae nifer y ceisiadau yn dibynnu ar bwy sy’n datblygu’r cynlluniau.”

Niferoedd

Yn ystod y tair blynedd diwetha’, mae tua chant o gynlluniau hydro wedi cael eu caniatáu o fewn ffiniau’r Parc. Maen nhw’n amrywio o greu rhwng 8 cilo wat, sy’n ddigon i ferwi tegell, a 5 mega wat o drydan. Ond mae pryderon am weddill yr afonydd fydd yn cael eu heffeithio, yn ôl John Harold.

“Yn Nant Peris, er enghraifft, dim ond pum afon sy’n bwydo i mewn i Lyn Peris ac mae pedwar ohonyn nhw hefo cynlluniau hydro. Rydan ni’n gwybod bod lot o gynlluniau eraill gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ardal Ogwen, mewn llefydd sensitif iawn o ran golygfeydd.

“Mae ganddom ni dystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru bod rhai yn gordynnu dŵr hefyd, tua 15%-20% allan o ryw hanner cant o’r cynlluniau hydro presennol, ac mae hynny yn torri’r amodau.”

Gweithio i’r dyfodol

Yr hyn fyddai John Harold a’r gymdeithas yn hoffi ei weld yw bod strategaeth newydd yn cael ei chreu ar y cyd rhwng y ddau sefydliad:

“Swni’n hoffi gweld darn o waith gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Parc ar y cyd sy’n gofyn – yw hi’n bosib bod yn strategol. Ar hyn o bryd, mae’r sefydliadau yn mynd trwy’r broses unigol ond ddim yn meddwl i’r dyfodol. Mae angen gwahaniaethau rhwng cynlluniau da a rhai sydd am gael effaith niweidiol.

“Mae angen gweithio allan yr effaith ar yr afonydd mwyaf sensitif a gofyn, beth yw’r dyfodol i’n hafonydd ni a beth hefyd yw dyfodol y brithyll a’r eog?”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri am eu hymateb.